Cerdd ar gyfer for Cymru’n Cofio – Estyn yn Ddistaw- Wales Remembers

Y Gwyliwr Picsileiddir mil o fylchau lle cwyd wynebau dan y don Dringa haul dros fryniau at groesbren ddu sy’n sgleinio dy lygaid nôl mewn iddi, gan anadlu trefi, pentrefi, dinasoedd; galar a lynir â sment ar wal. Pethau plufiog wedi’u gosod mewn corneli yn syllu nôl arnom. _____ Mae dy gerddi’n adrodd am dy gariad at y lonydd hyn: briallu, mieri, cen, mwsog, bedw’n prifio. Wrth gerdded i’r ysgol, carchar i grwt â phennau gliniau du fe gnoaist ar bensil nes i’r dannedd gwrdd â’r canol. Yna daeth rhywbeth i fritho’i uchelgais: cyfryngu’r natur mewnol drwy emyn a sgrifennwyd … Read More →