Cerdd ar gyfer for Cymru’n Cofio – Estyn yn Ddistaw- Wales Remembers
Y Gwyliwr
Picsileiddir mil o fylchau
lle cwyd wynebau dan y don
Dringa haul dros fryniau
at groesbren ddu
sy’n sgleinio dy lygaid
nôl mewn iddi,
gan anadlu trefi, pentrefi, dinasoedd;
galar a lynir â sment ar wal.
Pethau plufiog wedi’u gosod mewn corneli
yn syllu nôl arnom.
_____
Mae dy gerddi’n adrodd
am dy gariad at y lonydd hyn:
briallu, mieri, cen,
mwsog, bedw’n prifio.
Wrth gerdded i’r ysgol,
carchar i grwt â phennau gliniau du
fe gnoaist ar bensil
nes i’r dannedd gwrdd â’r canol.
Yna daeth rhywbeth
i fritho’i uchelgais:
cyfryngu’r natur mewnol
drwy emyn a sgrifennwyd
gan dân, aelwyd, a golau.
Patrymau ar ddŵr
yn datgloi cyfaredd perthyn,
yn creu hafan mewn llyfrau.
_________
Mae peiriant y galon yn dweud wrthym
fod mwy na hyn.
Ond os gallwn, dychwelwn
gan ymaflyd â’r hiraeth.
Gwewyr ein dynoliaeth,
ei sgerbwd allanol,
yn gwarthnodi ein byd,
drwy gecian gweddïau di-ri.
Ac eto rwyt ti, fi, nhw, yn credu
mewn rhywbeth mwy:
Pan welaf athrofa y werin
yn uno fy nghenedl i gyd.
Rhywbeth sydd tu hwnt i’r hunan
sy’n creu lle ar gyfer meddwl–
tu hwnt i’r caledwedd
sy’n britho ein ffurfafen.
Ac mewn pentre,
mae menyw’n dweud wrth blentyn:
Pan ddaeth yn ôl
ni allai fynd mewn i’r gegin
Gofynnodd am baraffîn
i drochi’r llau oedd dros ei gorff i gyd
O dan helygen noethodd ei hun
cyn y gellid ei gyffwrdd.
Cyfieithiad IFOR AP GLYN